Newyddion
Gwerth 23 mil o gyllid SBLASH i'r ganolfan chwaraeon dwr cymunedol ym Mhorthmadog
12/11/2008
 
Newyddion
Yn ddiweddar derbyniodd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru werth 23 mil o gyllid gan SBLASH, cronfa Her Hamdden Dwr i Gymru. Bydd cyllid y flwyddyn gyntaf yn mynd tuag at brynu offer chwaraeon dwr er budd y gymuned yn ardal Porthmadog, ac at adeiladu stordai parhaol ar eu cyfer.
 
Cwrs beicio un diwrnod i pobl lleol Mon
12/11/2008
 
Newyddion
Mae Hyfforddiant Beicio Cymru’n darparu cymhwyster Cefnogaeth Beicio Oddi ar y Ffordd achrededig gan OCN, a gynlluniwyd ar gyfer pobl a fyddai'n hoffi arwain grwp ar lwybrau di draffig. Mae'r cwrs yn addas i grwpiau cymunedol, athrawon ac arweinwyr ieuenctid i arwain grwpiau ar dir gwastad a hawdd.
 
Rhoi Cynnig ar Gaiacio Mentro Allan
12/11/2008
 
Newyddion
Cwrs blasu caiacio dan do. Yn dechrau Ddydd Mercher 12ed Hydref 8.30yn i 10yh am 6 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Mae'r cwrs yn rhad ac AM DDIM i gyfranogwyr Mentro Allan. Mae'r prosiect Mentro Allan wedi ei anelu tuag at ferchaid ifanc o oedran 16 i 30.
 
Swydd wag: Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored (Sir y Fflint)
11/11/2008
 
Newyddion
Cyn hir bydd Cyngor Sir y Fflint yn hysbysebu am Swyddog Datblygu Awyr Agored i ddatblygu gweithgareddau awyr agored yn y sir. Am ddisgrifiad swydd a manyldeb person, neu i gael sgwrs anffurfiol ynglyn a'r swydd cysylltwch a Sian Williams yn Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir y Fflint.
 
Gweithdy Hyfforddi Perfformwyr Anabl
10/11/2008
 
Newyddion
14 Tachwedd 2008 / 28 Mai 2009
Maes Glas, Bangor / Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau 6.00-9.00pm
Cost i fynychu'r cyrsiau fydd £10 y pen sy'n cynnwys pecyn gwybodaeth a lluniaeth ar y noson. Am fwy o fanylion ar y cyrsiau neu i sicrhau lle ar gwrs cysylltwch a Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd ar 01758 704 109
 
Gweithdy Tegwch yn eich Hyfforddiant
10/11/2008
 
Newyddion
2 Mawrth 2009
Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog 6.00-9.00pm
Cost i fynychu'r gweithdy fydd £10 y pen sy'n cynnwys pecyn gwybodaeth a lluniaeth ar y noson. Am fwy o fanylion ar y cyrsiau neu i sicrhau lle ar gwrs cysylltwch a Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd ar 01758 704 109.
 
Clinigau Padlo a Chyrsiau Undeb Canwio Prydain (UCP) ar gyfer Arweinwyr a Hyfforddwyr Clybiau
10/11/2008
 
Newyddion
Cyrsiau i 2009
Rhestr cynhwysfawr o clinigau padlo a chyrsiau Undeb Canwio Prydain i 2009! Yn ychwanegol i'r cyrsiau a clinigau fydd 'na penwythnosau pdatblygu, penwythnosau diweddaru'ch cymwysterau hyfforddi, trafodaethau, gwyliau a chyfarfodydd, hyfforddiant penodol ar gyfer anghenion eich clwb, sesiynau mentora hyfforddwyr, ac asesiadau ffug.
 
Cyfres o sesiynnau blasu i blant a phobl ifanc yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy
30/10/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Conwy a chlybiau awyr agored lleol yn cynnal cyfres o sesiynnau blasu mewn beicio mynydd, dringo a chyfeiriannu i blant a phobl ifanc yr ardal Dydd Sadwrn 1af o Dachwedd. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yr un pryd a Llanast Llanrwst, cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol yn y dref yn ystod 2008.
 
Cytundebau 3 a 6 mis ar gael RWAN yn yr United Arab Emirates!
23/10/2008
 
Newyddion
Enillwch i fyny at £16000
Yn cynnwys ticedi awyren, llety mewn gwesty ac yswiriant, Lwfans cynhaliaeth i fyny at £1800. Costau trafeilio i faes awyr yn y D.U. Ffoniwch heddiw a derbynnwch £175 yn ychwanegol fel ffi rhybudd hwyr. Dyddiad dechrau Tachwedd 1af. Am wybodaeth pellach ffoniwch Deborah Clarke ar 01286 871888.
 
Gweithgareddau Awyr Agored dros Hanner Tymor yr Hydref 2008!
16/10/2008
 
Newyddion
Dros hanner tymor mae disgyblion o ysgol uwchradd Caergybi a Ysgol David Hughes , Porthaethwy yn cael cyfle i datblygu sgiliau dringo a weithgareddau anturus eraill, hefo Partneriaeth Awyr agored ac y cynllyn 5x60 sydd yn rhedeg yn yr ddwy ysgol. Fydd y cyfle i treulio dau ddiwrnod yn y Canolfan Conwy ger y Fenai.
 
Cyfleoedd Awyr Agored i Ferched yng Nghonwy!
14/10/2008
 
Newyddion
YN CYCHWYN 25 HYDREF 2008
Ar Ddydd Sadwrn 25ain o Hydref, bydd cyfleoedd dringo yn cael eu lansio ym Mhlas y Brenin, lle bydd yr ail gwrs datblygu dringo i Ferched yn cychwyn. Yn ogystal a chyrsiau datblygu penodol, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored gyda rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo cyfleoedd i ferched yn yr awyr agored sydd yn cynnwys gweithgareddau blasu mewn canwio a cheufadu, dringo, sgio a eirfyrddio, mwyngloddio, a beicio mynydd i cyrsiau hyfforddi a chyrsiau i Fam a merch.
 
Cymorth Achub ac Argyfwng REC yn dod yn fuan!
13/10/2008
 
Newyddion
15 a 16 TACHWEDD 2008
CWRS YN LLAWN! FYDDEM NI'N RHEDEG MWY O GYRSIAU CYMORTH ACHUB AC ARGYFWNG YN 2009 (yn ddibynnol ar cronfeydd)
Canolfan Conway, Llanfairpwll, Ynys Mon
Dyma gwrs ymarferol 2 ddiwrnod o hyd sy'n addas ar gyfer Athrawon , Hyfforddwyr Awyr Agored, dringwyr a chanw-wyr. Caiff ei gydnabod fel y cymhwyster lleiaf ar gyfer HAMP, cymwysterau AM haf a gaeaf, Cymhwyster Goruchwylwyr Dringen Sengl, SHB, UCP, SHSP, ASSI, SCP a gan y rhan fwyaf o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol eraill.
 
Cwrs Hyfforddiant Arweinydd Mynydd cymorthdaledig i bobl leol!
13/10/2008
 
Newyddion
Dydd Sul 26 Hydref - Dydd Gwener 31 Hydref 2008
Canolfan Addysg Awyr Agored Bwthyn Ogwen (Ogwen Cottage)
Cost - £250
 
Cymorth Achub ac Argyfwng REC
11/10/2008
 
Newyddion
21 a 22 CHWEFROR 2009
Canolfan Conway, Llanfairpwll, Ynys Mon
Dyma gwrs ymarferol 2 ddiwrnod o hyd sy'n addas ar gyfer Athrawon , Hyfforddwyr Awyr Agored, dringwyr a chanw-wyr. Caiff ei gydnabod fel y cymhwyster lleiaf ar gyfer rhanfwyaf o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol.
 
Hyfforddiant Cymhwyster Dringo Wal yn dod yn fuan!
08/10/2008
 
Newyddion
6 a 7 RHAGFYR 2008 - PLAS Y BRENIN
1 LLE AR OL!
Mae'r cwrs hyfforddi 2 ddiwrnod yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r rhinweddau arwain sydd ei angen i gyflwyno a goruchwylio dringwyr nofis i'r rhaff dop nodweddiadol ac i waliau dringo bowldro. Bydd y Cymhwyster yma'n apelio at athrawon, arweinwyr ieuenctid, goruchwylwyr Dug Caeredin ac aelodau o glybiau awyr agored.
 
MENTER IEUENCTID ERYRI!
08/10/2008
 
Newyddion
Profiad anhygoel i chi! Os wyt ti rhwng 12 a 24 mlwydd oed a diddordeb i wneud gwahaniaeth fe alli di gymryd rhan yn y prosiect gwych yma yn Eryri - a'i fwynhau!
 
Plant yn Cyrraedd y Brig yng Nghanolfan Ddringo Beacon, Waunfawr
08/10/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn, Medi 27ain, bu 45 o blant a phobl ifanc yn paratoi eu hunain ar gyfer cystadleuaeth Dringo Clogwyni ar gyfer tymor newydd yr ysgol wedi ei drefnu gan Ganolfan Beacon. Croesawyd plant a phobl ifanc lleol ac o bell i'r ganolfan oedd yn llawn egni gyda chymysgfa o gefnogwr a chystadleuwyr.
 
Hanner Tymor o weithgareddau antur awyr agored yng Nghonwy!
08/10/2008
 
Newyddion
27-31 MIS HYDREF 2008
Ydych chi'n byw yng Nghonwy ag yn ffansio tipyn o Antur dros wyliau hanner tymor? Os ydych, mae 'a deithiau dydd i Nant Bwlch yr Haearn wedi yw trefnu i bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys Rhaffau Uchel a Cherdded Ceunant. Dim ond 15 lle sydd ar gael a byddant yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin a fydd rhaid archebu lle o flaen llaw!
 
Penwythnos hyfforddiant mordwyo yn dod yn fuan!
07/10/2008
 
Newyddion
18 a 19 HYDREF 2008
Diddordeb bod yn Arweinydd Mynydd neu yn syml eisiau datblygu eich sgiliau mordwyaeth? Mae'r cwrs penwythnos ymarferol yma yn darparu cyfle gwych i chi ddysgu sgiliau newydd a choethi eich techneg! Fyddwch chi'n cyflawni bob agwedd o fordwyaeth yn gadael chi'n fedrus o gael hyd i'ch ffordd eich hun yn fedrus, yn ystod y dydd neu'r nos ac mewn tywydd drwg. Nifer cyfyngedig, rhaid archebu lle!
 
Cael at Offer Awyr Agored yn Sir Fon!
07/10/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Mon yn lansio storfa offer Awyr Agored newydd. Gyda chymorth cronfa gyfalaf ffordd o fyw egniol, Cyngor Chwaraeon Cymru, mae'r sir wedi datblygu storfa offer yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni a fydd yn darparu ar gyfer anghenion grwpiau, clybiau, ysgolion, clybiau ieuenctid, sefydliadau ac asiantaethau sy'n dymuno cael mynediad at yr awyr agored.
 
Diwrnod Antur Awyr Agored i Pobl Ifanc gyda Anabledd
17/09/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn 18ain Hydref
Oedran 8 – 12 blwydd 9.00yb – 1.00yh / Oedran 13 – 16 / blwydd 1.00yh – 5.00yh. Cyfarfod yn y Canolfan Conwy, Llanfairpwll, LL61 6DJ. Un Rhiant /Gofalydd I aros am y sessiwn. £5 y person, fydd rhaid archebu lle o flaen llaw.
 
Swydd Hyfforddi/person Storfa
17/09/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU: 08/10/08
Mae Gwasanaeth Addysg Breswyl Sandwell yn chwilio am hyfforddwr/person storfa i weithio yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Plas Gwynant yn Nant Gwynant, Eryri. 0.8 FTE Level Hyfforddwr 2/person storfa. Tymor dwy flynedd (yn cychwyn 05/01/2009) £18629 - £22145 pro rata.
 
Diwrnod Mordirio Arfordir Mon
10/09/2008
 
Newyddion
DYDD SADWRN, MEDI 20fed 2008
Diwrnod o hwyl i'r teulu i gyd. Nod y diwrnod yw rhoi i bobl gyfle i brofi harddwch naturiol yr arfordir o safbwynt gwahanol, tra hefyd yn cael lot o hwyl wrth wlychu. Bydd y dydd yn cael ei arwain gan arweinwr proffeniynol o Ganolfan Cenedlaethol Chwaraeon Dwr Plas Menai.
 
Diwrnod Canwio i'r teulu ym Mhenmaenpool
10/09/2008
 
Newyddion
DYDD SADWRN MEDI 20, 2008 o 10 am
Cael eich teulu i ganwio! Sesiwn dewch i drio YN RHAD AC AM DDIM. Penmaen-pwl, maes parcio'r Parc Cenedlaethol, Dolgellau. Yn ychwanegol: Her Quadathlon (beicio, padlo, rhedeg a nofio) ac arddangosiadau padlo gan glybiau a padlwyr lleol.
 
£1000 Cymorth Cyst Cymunedol tuag at sesiynau newydd ddringo ym Mhorthmadog
10/09/2008
 
Newyddion
Bu Clwb Antur Glaslyn yn llwyddiannus yn sicrhau £1,000 grant Cyst Cymunedol y Cyngor Chwaraeon Cymru i brynu offer ddringo er mwyn datblygu adran dringo newydd i'r clwb. Y bwriad i gychwyn yw creu linc gydag ysgol Eifionydd a gwneud defnydd o'r wal ddringo newydd.

 
Hyfforddiant / Ymwybyddiaeth Addysg Awyr Agored i Ysgolion Gwynedd a Mon!
10/09/2008
 
Newyddion
Tymor yr Hydref 2008
Bydd ddyddiau Hyfforddiant / Ymwybyddiaeth Addysg Awyr Agored yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu Gwynedd yn ystod tymor yr hydref 2008. Fydd yr hyfforddiant ar gael i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd Gwynedd a Mon i roi datblygu sgiliau sylfaenol, wybodaeth a hyder i ymdrin a rhai gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
 
Proffil Clwb - Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy
19/08/2008
 
Newyddion
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r clwb wedi trefnu nifer o weithgareddau, o gystadlaethau Cyfeiriannu Beicio Mynydd, i sesiynau datblygu sgiliau, sesiynau cynnal beiciau a theithiau merched yn unig. Hefyd, treuliodd aelodau'r clwb bum niwrnod yn beicio oddi ar y ffordd o Gonwy i Abertawe i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
 
Gwyl Beicio Eryri 2008!
19/08/2008
 
Newyddion
COEDWIG BEDDGELERT - 27 MEDI 2008
DIWRNOD O HWYL AR FEIC MYNYDD
Diwrnod o weithgareddau mewn lleoliad pyrdferth ar gyfer y teulu a dechreuwyr i ddatblygu sgiliau beicio mynydd. Bydd beiciau ar gael i'w llogi gan Beics Beddgelert, hefyd bydd gwersylla ar gael yn y goedwig.
 
Fuoch chi'n dymuno mynd i ddringo creigiau, canwio neu arfordiro yn Eryri?
13/08/2008
 
Newyddion
Os felly, yna mae iTry i chi!
Rydym wedi dod ynghyd ddetholiad o rai o'r cwmniau antur gorau yng Ngogledd Cymru. Mae un galwad ffon yn sicrhau mynediad ichi i rai o'r anturiaethau mwyaf cyffrous sydd o gwmpas.
 
Dyddiad Agored Rhad ac am Ddim ym Mhlas Menai!
12/08/2008
 
Newyddion
Troi angerdd yn yrfa - 27.09.08
Mae ein dyddiau cipolwg yn cael eu cynnal i'ch helpu i ddysgu am hyfforddi a gweithio yn y diwydiannau chwaraeon dwr a hwylio. Boed yn dechrau arni, yn newid gyfeiriad, ar flwyddyn fwlch neu'n cael seibiant yn eich gyrfa, ymunwch a ni i ddysgu mwy am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn eich galluogi i weithio yn y diwydiannau cyffrous a deinamig hyn.
 
Sesiwn Canwio ar gyfer Pobl Ifanc Anabl
29/07/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn 16eg Awst, 2008
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn trefnu gweithgareddau canwio i bobl ifanc anabl. Mae'r gweithgareddau yn digwydd dros gwyliau'r haf i bobl ifanc o gogledd orllewin Cymru, yn cyfarfod yng Nglanllyn, Bala. 8 - 12 oed, - 9.30 – 13.00 / 13 – 16 oed, 13:30 - 5:00.
 
Penwythnos awyr agored Stiniog!
22/07/2008
 
Newyddion
Gweithgareddau'r penwythnos yn cynnwys taith cerdded i'r llynoedd, sesiwn blasu dringo, diwrnod ar y Moelwynion, cystadleuaeth pysgota ar Llyn Tanygrisiau, cyfle i flasu sesiynnau hwyl caiacio/canwio dan arweiniad clwb padlo Blaenau, a thaith drefol a hanesyddol gyda Rhian Williams.
 
Arloeswyr y Wobr Awyr Agored yn paratoi’r ffordd ar gyfer llawer mwy
15/07/2008
 
Newyddion
Gwnaeth cyflwyno gwobrau a digwyddiad cyfeiriadu cymryd lle yng Nghanolfan Hamdden Parc Eirias, Bae Colwyn ar ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2008. Mae chwech o ysgolion yng ngogledd Cymru wedi canmol cynllun Gwobr Awyr Agored newydd i'r cymylau. Y flwyddyn nesaf, fe fydd y cynllun hwn yn cael ei gynnig i fwy o blant yn yr ardal.
 
Rhaglen gweithgareddau antur awyr agored yn Sir Fon yn ystod yr haf!
15/07/2008
 
Newyddion
Mae Cyngor Sir Fon a'r Bartneriaeth Awyr Agored yn cynnig diwrnodau gweithgareddau antur awyr agored i bobl ifanc o Sir Fon dros yr haf. Mae'r diwrnodau o weithgareddau ar gyfer bobl ifanc rhwng 11 - 16 oed. Mae'r gweithgareddau am ddim ac yn cynnwys cludiant.
 
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Newydd yn Sir Fon!
10/07/2008
 
Newyddion
Yr wythnos yma, croesawodd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru aelod newydd i'w tim i gynorthwyo gyda gweithredu Strategaeth newydd PAAGOG ar Ynys Mon.
 
Rhaglenni Antur Awyr Agored Gwyliau’r Haf Conwy
10/07/2008
 
Newyddion
Cyfres o gyfleoedd diwrnodau a phreswyl i deuluoedd, ieuenctid a phlant ar gael fel rhan o raglen antur awyr agored gwyliau'r haf Conwy. Gweithgareddau yn cynnwys beicio mynydd 'free-ride', dringo, abseilio, canwio, caiacio, archwilio tanddaearol, cerdded ceunant, cyfeiriannu, ceffylau, cwrs rhaffau uchel, sgio a geirfaoedd a llawr mwy!
 
Siawns i bobl ifanc Cymraeg eu hiaith o Fôn brofi diwrnod o ddringo am ddim!
08/07/2008
 
Newyddion
Ar Orffennaf 19eg mae Menter Iaith Mon yn cynnig y cyfle i bedwar o bobl ifanc gwario diwrnod yn dringo am ddim. Mae'r cyfle ar agor i bobl ifanc dros 16 sydd yn siarad Cymraeg. Does ddim angen cael profiad blaenorol o ddringo - bydd y gweithgaredd yn addas ar gyfer dechreuwyr pur ac yn digwydd o dan oruchwyliaeth hyfforddwr cymwys a profiadol.
 
Clwb Gweithgareddau Awyr Agored Cyfrwng Cymraeg ar Ynys Mon
08/07/2008
 
Newyddion
Mae Menter Iaith Mon a'r Bartneriaeth Awyr Agored yn bwriadu sefydlu clwb gweithgareddau awyr agored, cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng nghanolbarth Ynys Mon.
 
Rhaglen Antur Awyr Agored yr Haf Gwynedd!
08/07/2008
 
Newyddion
Ydych chi'n yn byw yng Ngwynedd, dros 11 blwydd oed ac yn hoffi cymryd rhan mewn rhaglenni antur awyr agored cynhyrfus dros wyliau'r haf? Os ydych, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored a Chyngor Gwynedd yn trefnu amryw o gyfleoedd dyddiol a chyfres o wythnosau mewn dringo, chwaraeon padlo, cerdded mynyddoedd, scramble, abseilio, rafftio a aml-gweithgareddau.
 
Gweithdy mewn Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM yn dod yn fuan!
08/07/2008
 
Newyddion
10 MEDI 2008 - PLAS Y BRENIN
Ar gyfer amddiffyn eich hun a'r bobl ifanc rydych yn cydweithio a hwy rydych angen dealltwriaeth a dilyn ymarfer hyfforddi da. Dyma weithdy 3 awr i arweinwyr actif.
 
Gweithdy Hyfforddi Plant a Phobl Ifanc AM DDIM wedi yw AIL-AMSERI!
16/06/2008
 
Newyddion
1af HYDREF 2008 - PLAS Y BRENIN - 6.30-9.30pm
Darganfyddwch anghenion a symbyliad perfformwyr ifanc. Yn y gweithdy 3 awr yma byddwch yn dysgu sut i drosglwyddo sesiynau hyfforddi yn effeithiol ar gyfer cwrdd a lefel sgil, symbyliad a ffurf ddatblygol pob un cyfranogwr ifanc.
 
Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM!
10/06/2008
 
Newyddion
DYDD MERCHER 2 GORFFENNAF 2008 - PLAS Y BRENIN - 6.30-9.30PM
Ar gyfer amddiffyn eich hun a’r bobl ifanc rydych yn cydweithio a hwy rydych angen dealltwriaeth a dilyn ymarfer hyfforddi da. Mae'r gweithdy yma AM DDIM i bawb sydd yn gweithio gyda phlant a phobol ifanc yn yr awyr agored.
 
Storfa Offer i bobl sy’n frwdfrydig am weithgareddau awyr agored yng Nghonwy
10/06/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Gwasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lansio storfa offer Awyr Agored newydd. Fydd yn darparu ar gyfer anghenion grwpiau, clybiau, ysgolion, clybiau ieuenctid, sefydliadau ac asiantaethau sy’n dymuno cael mynediad at yr awyr agored.
 
Pennod newydd i Glwb Antur Awyr Agored No Limits
10/06/2008
 
Newyddion
Mewn ymgais ar y cyd i gynyddu cyfleoedd gweithgareddau awyr agored i blant a phobl ifanc gydag anableddau, mae Clwb Antur Awyr Agored No Limits, yn Glwb Awyr Agored arloesol yn siroedd Conwy Gwynedd ac Ynys Mon.
 
Haf o Hwyl ac Antur yng Nghonwy!
10/06/2008
 
Newyddion
Yn dilyn llwyddiant rhaglen wyliau Antur Awyr Agored Conwy, mae'n argoeli y bydd rhaglen wyliau Antur yr haf hwn yn un llawn cyffro. Eleni rydym wedi datblygu ein cyrsiau i alluogi plant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.
 
Gwyl Cyfeiriannu i Ysgolion Cynradd Gwynedd
10/06/2008
 
Newyddion
Yn dilyn prosiect i fapio tir pob ysgol yng Ngwynedd, i alluogi athrawon i arwain sesiynau sylfaenol cyfeiriannu i'w disgyblion, mae 'na gyfres o wyliau cyfeiriannu i bob ysgol gynradd Gwynedd yn ystod tymor yr haf 2008.
 
Fforwm Clybiau Awyr Agored yn cychwyn yn Gwynedd
10/06/2008
 
Newyddion
Cynhaliwyd y fforwm clybiau awyr Agored Gwynedd cyntaf yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn Nos Fercher yr 30ain o Ebrill. Cafodd cynrychiolwyr o 14 o glybiau awyr agored y cyfle i drafod cyfleoedd cronfeydd, materion yswiriant , dull gweithredu i glybiau awyr agored a'r cynllun mentora'r Bartneriaeth Awyr Agored.
 
Grantiau Arian i Bawb Cymru
06/06/2008
 
Newyddion
Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru wedi derbyn grant yn ddiweddar o £5000 gan gynllun Arian i Bawb Cymru y Loteri i hyfforddi arweinwyr gwirfoddol o fewn Clybiau awyr agored lleol. Mae'r grant wedi hyfforddi 49 o arweinwyr gwirfoddol. Mae gan y clybiau sy'n darparu ar gyfer ieuenctid, oedolion a theuluoedd ar hyn o bryd dros 1100 o aelodau.
 
Swyddog Datblygu Cymunedol Onboard
06/06/2008
 
Newyddion
Dyddiad Cau - 12 Mehefin 2008
Mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai, mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA), am benodi Swyddog Datblygu gweithgareddau cymunedol ganolfan a datblygu menter RYA bwysig, sef OnBoard, yn y Gogledd.
 
Gweithgareddau Hanner Tymor yng Nghonwy
21/05/2008
 
Newyddion
28-30 o Fai 2008
Swsiwn Blasu Caiacio, hanner diwrnod Ceuentio (Cerdded Afon) a diwrnod Datblygu Dringo. Mae'r llefydd yn brin. Bydd yr holl gyfarpar yn cael ei ddarparu. Y CYNTAF I’R FELIN GAIFF FALU.
 
SWYDD WAG - Tiwtor Cynorthwywr Addysg Awyr Agored
09/05/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU - 31 MAI 2008
Mae Canolfan Conway yn ceisio recriwtio Tiwtor Cynorthwywyr Addysg Awyr Agored i weithio yn un o'r canolfannau addysg draws cwricwla preswyl ym Mhrydain.
 
Cyfleoedd dringo NEWYDD yng Nghonwy!
09/05/2008
 
Newyddion
Nos Fawrth,13eg o Fai, bydd cyfleoedd dringo yn cael eu lansio ym Mhlas y Brenin, lle bydd y gweithgareddau'n cynnwys cyrsiau datblygu oedolion, yn ogystal a chyrsiau hyfforddi gwirfoddolwyr y Corff Llywodraethu Cenedlaethol a chyrsiau cyflwyniad i ddringo ar gyfer teuluoedd.
 
Clinigau Hyfforddi Padlo Cymunedol CCC 2008
06/05/2008
 
Newyddion
Diwrnodau sgiliau *, Gwobrau *, Prawf Diogelwch Canŵio, Paratoi Trafodaeth, Mordwyo Croesfan Agored, Diwrnod Diogelwch Afon, Clinigau Rholio, Clinigau Hyfforddi, a fwy…
 
Swyddi Hyfforddwyr Cynorthwywyr
29/04/2008
 
Newyddion
Canolfan Mynydda Blue Peris, Gogledd Orllewin Cymru.
Rydym yn recriwtio 2 hyfforddwyr cynorthwywyr blwyddyn yma, yn cychwyn 1af Medi 2008 tan Awst 1af 2009. Mae cynllun Hyfforddwyr Cynorthwywyr yn darparu chi gyda chyfleoedd i gynorthwyo, gweithio ar y cyd gyda hyfforddwyr ag o bosib, o'r diwedd arwain nifer o weithgareddau awyr agored.
 
Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM, yn dod yn fuan!
25/04/2008
 
Newyddion
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn hel enwau i’r Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant, fydd yn cael ei gynnal ym Mhlas Menai, y Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr, ger Caernarfon, rhyw ben ym mis Mehefin.
 
Datblygu ac Ehangu eich Clwb!
25/04/2008
 
Newyddion
Gweithdy Cynllun Datblygu Eich Clwb AM DDIM ym Mhlas y Brenin
DYDDIAD NEWYDD - 4 MEHEFIN 2008
Bydd y Gweithdy RunningSports yn 3 awr o hyd ac yn canolbwyntio ar bopeth rydych angen ei wybod am gynhyrchu cynllun datblygu effeithiol ar gyfer eich clwb. Dewch i ymuno gyda ni a chwrdd hefo clybiau awyr agored eraill yng Ngogledd Orllewin Cymru.
 
Eisteddfod yr Urdd - Sir Conwy
26-31 Mai 2008
25/04/2008
 
Newyddion
Dyma gynnig gwych i rai sy’n chwilio am antur a chynnwrf gwahanol i’r arfer yn eu bywydau! Fel rhan o gynllun rhwng Antur TT Adventure ger Betws y Coed ac Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy, am bris gostyngol, mae dau brynhawn penodol wedi eu clustnodi i rai sy’n hoffi uchder a sialens. Rhan o waith cronfa apêl yr ŵyl genedlaethol ddaw i Fae Penrhyn ddiwedd mis Mai (26 – 31 Mai) yw’r cynllun arbennig hwn.
 
Recriwtio Gwirfoddolwyr ar gyfer Clwb Dringo No Limits
14/04/2008
 
Newyddion
Hoffech chi weithio gyda phobl ifanc gydag anableddau yn yr awyr agored? Os felly, bydd Clwb Dringo No-Limits, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, yn trefnu dyddiau i recriwtio gwirfoddolwyr yn y misoedd nesaf.

8fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Dringo-Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
15fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Cyfeiriannu yng Nghoedwig Niwbwrch
20fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Canŵio yn Llyn Padarn
 
Antur dros y Pasg i ieuenctid Gwynedd!
11/04/2008
 
Newyddion
Yn ystod gwyliau’r Pasg bu disgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Brynrefail yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored yng Nghanolfan Awyr Agored Llanrug.
 
Clwb awyr agored NEWYDD yn ardal Bermo/ Dolgellau!
11/04/2008
 
Newyddion
Ydych chi’n byw yn ardal Bermo / Dolgellau? A fyddai diddordeb gennych mewn helpu i sefydlu clwb awyr agored NEWYDD ar gyfer yr ardal?
 
Cyfarfod Blynyddol Clwb Padlo Dysynni
11/04/2008
 
Newyddion
28ain o Ebrill - Y Cyfarfod Blynyddol, Peniarth Arms, Bryncrug

Mae’n rhaid i ni gael o leiaf 25% o’r holl aelodau yn bresennol - ceisiwch fod yno os gallwch chi. Os oes diddordeb gan yr unigolion ifanc i ymuno â’r Pwyllgor Rheoli fel Cynrychiolwyr o’u hoedran hwy yna siaradwch gyda’r aelodau eraill a gyrru eich enwebiad ataf i erbyn 27ain o Ebrill.
 
Rôl Mentora i Gynorthwywr Canolfan ym Mhlas y Brenin
11/04/2008
 
Newyddion
Bydd Peter Mayers, sy’n Gynorthwywr Canolfan ym Mhlas y Brenin, y ganolfan mynydda yng Nghapel Curig, yn gweithio gyda grŵp o Flaenau Ffestiniog yn y dyfodol agos er mwyn eu cynorthwyo i ennill eu Cymhwyster Arweinydd Mynydd.
 
Cwrsiau AM DDIM i Gweithwyr Ieuenctid!!!
11/04/2008
 
Newyddion
Mae Camre Cymunedol yn gyffrous iawn i allu cynnig yr cyrsiau canlynol, AM DDIM, i unrhyw person sy’n gweithio hefo Pobol Ifanc neu Cymunedau A HEFYD yn byw yn un o Siroedd canlynol: Sir Ddinbych, Sir Conwy, Gwynedd, Sir Fôn a Rhondda Cynon Taff.
 
Cynlluniau Hyfforddi - Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru
11/04/2008
 
Newyddion
Mae darparwyr cyrsiau yng Nghymru’n cynnal cannoedd o gyrsiau i hyfforddi ac asesu Arweinwyr bob blwyddyn, a HAMC yw’r corff sy’n eu trefnu ac yn eu gweinyddu.
 
AROLWG O WAITH Y BARTNERIAETH AWYR AGORED
06/04/2008
 
Newyddion
Wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod tair blynedd gychwynnol ‘rydym yn awyddus i gynnal arolwg o’r gwaith. Bwriad yr arolwg yw adnabod cryfderau a gwendidau yn y prosiect cyfredol (Hydref 2005-presennol) a blaenoriaethu meysydd ar gyfer datblygiad yn ystod y cyfnod 3 mlynedd nesaf (Ebrill 2009-Mawrth 2012).
 
Hyfforddiant Lefel 1 Cyfeiriannu Prydain
03/04/2008
 
Newyddion
Dyddiad 9 Ebrill 2008 Canolfan Hamdden Parc Eirias 9.00 am – 4.00pm Mae’r cymhwyster ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn; fodd bynnag, dim ond dan oruchwyliaeth hyfforddwr/aig neu athro/athrawes cymwys y bydd unigolion dan 18 oed yn cael gweithio.
 
Gwyl Tremadog
03/04/2008
 
Newyddion
Trowch i fyny hefo secateurs, a/neu lli prwnio, wedyn dringo a rhoi trim i’r llwybr i gael mynediad am ddim i:
 
Cyfleoedd hyfforddiant AM DDIM i arweinwyr gwirfoddol!
02/04/2008
 
Newyddion
NEWYDD!
Rhaglen Addysg Hyfforddiant y Bartneriaeth Awyr Agored 2008 allan rŵan!

Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn trefnu rhaglen o gyrsiau hyfforddiant awyr agored yn 2008 i hyfforddi Arweinwyr a Hyfforddwyr presennol ac i ddatblygu Arweinwyr a Hyfforddwyr newydd o fewn ein Clybiau Awyr Agored.
 
Hyfforddiant Cymhwyster Dringen Sengl trwy'r cyfrwng y Gymraeg!
31/03/2008
 
Newyddion
4 lle gwag ar gael ar y cwrs Hyfforddiant CDS (SPA) ym Mhlas y Brenin ar 19 a 20 o Ebrill 2008. Llefydd DI-DÂL I arweinyddion clybiau cymunedol!
 
Galwad am Arweinwyr Gwirfoddol
25/03/2008
 
Newyddion
Ydych chi’n byw yn ardal Porthmadog? Oes gennych chi gymwysterau arwain awyr agored ac awydd helpu allan yn eich clwb awyr agored lleol?
 
Swydd Wag ar gyfer Hyfforddwr Tymhorol yn y Ganolfan Genedlaethol Dwr
20/03/2008
 
Newyddion
Ceir cyfle gwych i hyfforddwr chwaraeon dŵr cymwys weithio yn un o ganolfannau chwaraeon dŵr gorau’r DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau mewn sawl gweithgaredd, fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer.
 
Diffyg siaradwyr Cymraeg yn mentro i’r sector awyr agored
19/03/2008
 
Newyddion
Gyda 5% yn unig o weithlu’r diwydiant gweithgareddau awyr agored yng ngogledd orllewin Cymru yn siarad Cymraeg mae cynllun newydd wedi ei lansio i geisio gwrthdroi’r patrwm hwn.
 
Gwneud y mwyaf o amgylchedd naturiol Gwynedd
18/03/2008
 
Newyddion
"Ond mae'r sector awyr agored hefyd yn ffynhonnell swyddi amrywiol a diddorol, ac mae'n bwysig fod ein pobl ifanc yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael trwy amgylchedd naturiol anhygoel Gwynedd." Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Cyfadran Datblygu Cyngor Gwynedd:
 
Grantiau Offer i Glybiau Awyr Agored!
18/03/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU I'R ROWND NESAF O GEISIADAU YW TACHWEDD 24, 2008!
Clwb Padlo Blaeanu yw'r clwb diweddaraf i dderbyn grant offer gan y Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, drwy'r Cyngor Chwaraeon Cymru. Mae 'na i fyny at £5000 o gronfa cyfalaf i glybiau awyr agored ar gael.
 
Clwb Padlo Dysynni - SESIWN YCHWANEGOL yn y pwll i Iieuenctid o ddydd Mawrth, 11eg Mawrth 2008 ymlaen!
18/03/2008
 
Newyddion
Mae’n debyg i chi sylwi fod y clwb wedi tyfu o nerth i nerth a bod gennym bellach dros 65 o aelodau! Mae hyn tu hwnt i bob disgwyl ar gyfer y cyfnod yma o’r clwb sy’n golygu fod sesiynau yn y pwll wedi bod yn brysurach nag oeddem wedi ei ragweld. Yn hytrach na gwrthod unrhyw badlwyr newydd a chyfyngu’r cyfleoedd i aelodau presennol i ddatblygu eu sgiliau padlo rydym wedi ychwanegu sesiwn wythnosol arall i’r amserlen o Ddydd Mawrth 11eg o Fawrth ymlaen.
 
Cyrsiau Hyfforddi / Arwainyn AM DDIM i glybiau awyr agored
18/03/2008
 
Newyddion
Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, gyda chymorth Cyngor Chwaraeon Cymru yn cynnig cyrsiau arwain a hyfforddi AM DDIM yn 2008.
 
Clwb Antur Glaslyn yn derbyn £5000 i brynu offer canŵio a chaiacio
18/03/2008
 
Newyddion
Mae Clwb Antur Glaslyn wedi derbyn grant o £5000 yn ddiweddar gan Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer prynu offer canŵio a chaiacio i’r clwb.
 
Cymdeithas Eryri yn penodi cyn Weinidog o’r Cynulliad
18/03/2008