Swyddi yn y Diwydiant Awyr Agored

Camre Cymru
Swydd:
Manylion:
Cytundebau 3 a 6 mis ar gael RWAN yn yr ‘United Arab Emirates’ Enillwch i fyny at £16,000 Yn cynnwys ticedi awyren, llety mewn gwesty ac yswiriant Lwfans cynhaliaeth i fyny at £1800 Costau trafeilio i faes awyr yn y D.U. Ffoniwch heddiw a derbynnwch £175 yn ychwanegol fel ffi rhybudd hwyr* Dyddiad dechrau Tachwedd 1af Am wybodaeth pellach ffoniwch Deborah Clarke ar 01286 871888 *Yn ddibynnol ar gael eich cytundebu
Cyswllt:
Deborah Clarke
Ffôn:
01286 871 888 Email: deborah@outlookexpeditions,com
Dyddiad cau:

Swydd Wag ar gyfer Hyfforddwr Tymhorol
Swydd:
Plas Menai
Manylion:
Swydd Wag ar gyfer Hyfforddwr Tymhorol Mawrth – Tachwedd

Cyflog £16,284 - £18,835 pro rata – a lwfans dillad

Ceir cyfle gwych i hyfforddwr chwaraeon dŵr cymwys weithio yn un o ganolfannau chwaraeon dŵr gorau’r DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau mewn sawl gweithgaredd, fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer. Mae’r ganolfan yn cynnal amrywiaeth eang o gyrsiau addysgu technegol ac i hyfforddwyr, a chyrsiau ysgolion a rhaglenni cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi pellach a sicrhau defnydd am ddim o offer gweithgarwch i ddatblygu eich sgiliau.

Byddai’r cyflog is ar gyfer cymwysterau hyfforddi lefel sylfaenol fel Hyfforddwr Dingi, Hyfforddwr Gwyntsyrffio, Hyfforddwr Cychod Pŵer a Hyfforddwr Caiac Lefel 2 a’r cyflog uwch ar gyfer cymwysterau ar lefel uwch fel Uwch-Hyfforddwr Dingi, Hyfforddwr Gwyntsyrffio ar Lefel Uwch, Uwch-Hyfforddwr Gyrru Cychod Pŵer neu Hyfforddwr Caiac Lefel 3.

Am wybodaeth bellach neu ffurflen gais, cysylltwch â Jamie Johnson neu Nic Wymer ym Mhlas Menai ar 01248 670 964 neu e-bost info@plasmenai.co.uk . Ewch i’n gwefan hefyd, www.plasmenai.co.uk
Cyswllt:
Jamie Johnson
Ffôn:
01248 670 964 Email: info@plasmenai.co.uk
Dyddiad cau:

GWERSYLL YR URDD GLAN-LLYN
Swydd:
Cynllun Hyfforddai
Manylion:
Bwriad y Cynllun Hyfforddai yw rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a derbyn hyfforddiant tuag at ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y maes awyr agored a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun o hyfforddiant dros gyfnod o 12 mis gan gychwyn ar 13 Awst 2007. Ar ddiwedd y cyfnod mae’r hyfforddai wedi ennill cymwysterau mewn gweithgareddau amrywiol gan anelu at hyfforddwr lefel 2 mewn ceufadu a chanŵa, hwylio lefel 2, cwch achub lefel 2, hyfforddiant arweinydd mynydd haf, hyfforddiant dringo, cymorth cyntaf a gweithgareddau mewnol y gwersyll, e.e. wal ddringo, cwrs rhaffau uchel, pwll nofio, bowlio deg, ayb. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol gyda nifer o’r hyfforddai wedi sicrhau swyddi parhaol yn y gwersyll a chanolfannau eraill ar ôl cwblhau eu cyfnod dan hyfforddiant. Os os gennych ddiddordeb, mae swydd ddisgrifiad a ffurflen gais ar gael ar wefan y gwersyll: www.urdd.org/glanllyn neu gysylltwch â’r gwersyll: Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7ST glanllyn@urdd.org 01678 541 000
Cyswllt:
Ffôn:
01678 541 000 Email: glanllyn@urdd.org
Dyddiad cau:

Plas Menai
Swydd:
Dyfod hyfforddwr cymwys mewn gweithgareddau yn yr awyr agored
Manylion:
EISIAU GWEITHIO YN YR AWYR AGORED? Dyma’r union beth i chi . . . Dewiswch o blith ein cyrsiau helaeth. Enillwch gymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amgylchedd cyfeillgar a lleoliad godidog. Bydd ein cyrsiau hyfforddi hyfforddwyr cyflym yn agor y drws ar gyfleoedd byd-eang i chi. Ymunwch â’n dyddiau agored i hyfforddwyr am wybodaeth bellach. HYFFORDDWR CHWARAEON D^WR 26 WYTHNOS HD Y GIF, HG Lefel 1, Hyfforddwr Caiac Lefel 2 UPC, Capten Dydd GIF, Dyfarniad Arweinydd Beicio Mynydd HYFFORDDWR DINGI A GWYNTSYRFFIO 12 WYTHNOS HD Y GIF, HG Lefel 1, Hyfforddwr Caiac Lefel 1 UCP HYFFORDDWR CYCHOD P ^ WER 3 WYTHNOS RYA PBI HYFFORDDWR CAIAC A MYNYDD 12 WYTHNOS Hyfforddwr Caiac Lefel 2, Arweinydd Gr ^ wp Cerdded BHAM, Dyfarniad Arweinydd Beicio Mynydd IOTFEISTR PROFFESIYNOL 18 WYTHNOS Iotfeistr y GIF / MCA
Cyswllt:
Suzanne Creasy
Ffôn:
(0)1248 670964 Email: info@plasmenai.co.uk
Dyddiad cau:

 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.