| Croeso i safle we y Bartneriaeth Awyr Agored |
| |
|
|
|
Croeso i safle we y Bartneriaeth Awyr Agored, gwefan adnodd i glybiau, grwpiau cymunedol, ysgolion, pobl ifanc, unigolion a teuluoedd, eisio profiad, mwyhad a llwyddiant yn yr Awyr Agored |
| |
| Newyddion |
| Penwythnos awyr agored Stiniog! |
Gweithgareddau'r penwythnos yn cynnwys taith cerdded i'r llynoedd, sesiwn blasu dringo, diwrnod ar y Moelwynion, cystadleuaeth pysgota ar Llyn Tanygrisiau, cyfle i flasu sesiynnau hwyl caiacio/canwio dan arweiniad clwb padlo Blaenau, a thaith drefol a hanesyddol gyda Rhian Williams.
|
| |
| Fuoch chi'n dymuno mynd i ddringo creigiau, canwio neu arfordiro yn Eryri? |
Os felly, yna mae iTry i chi!
Rydym wedi dod ynghyd ddetholiad o rai o'r cwmniau
antur gorau yng Ngogledd Cymru. Mae un galwad ffon yn
sicrhau mynediad ichi i rai o'r anturiaethau mwyaf cyffrous
sydd o gwmpas.
|
| |
| Proffil Clwb - Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy |
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r clwb wedi trefnu nifer o weithgareddau, o gystadlaethau Cyfeiriannu Beicio Mynydd, i sesiynau datblygu sgiliau, sesiynau cynnal beiciau a theithiau merched yn unig. Hefyd, treuliodd aelodau'r clwb bum niwrnod yn beicio oddi ar y ffordd o Gonwy i Abertawe i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
|
| |
| Gwyl Beicio Eryri 2008! |
COEDWIG BEDDGELERT - 27 MEDI 2008
DIWRNOD O HWYL AR FEIC MYNYDD
Diwrnod o weithgareddau mewn lleoliad pyrdferth ar gyfer y teulu a dechreuwyr i ddatblygu sgiliau beicio mynydd. Bydd beiciau ar gael i'w llogi gan Beics Beddgelert, hefyd bydd gwersylla ar gael yn y goedwig.
|
| |
| Cyrsiau adfywiol a ffug asesiadau Arweinydd Mynydd a Chymhwyster Dringen Sengl yn dod yn fuan! |
23-24 Awst 2008 - fordwyo (yn cynnwys campio dros nos)
6-7 Medi 2008 - Goruchwylio ar ddaear serth a gwaith rhaff 30-31 Awst 2008 - Cwrs adfywio cymhwyster dringen sengl
Nifer cyfyngedig, rhaid archebu lle!
|
| |
| Sesiwn Canwio ar gyfer Pobl Ifanc Anabl |
Dydd Sadwrn 16eg Awst, 2008
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn trefnu gweithgareddau canwio i bobl ifanc anabl. Mae'r gweithgareddau yn digwydd dros gwyliau'r haf i bobl ifanc o gogledd orllewin Cymru, yn cyfarfod yng Nglanllyn, Bala. 8 - 12 oed, - 9.30 – 13.00 / 13 – 16 oed, 13:30 - 5:00.
|
| |
| Grantiau Offer i Glybiau Awyr Agored! |
DYDDIAD CAU I'R ROWND NESAF O GEISIADAU YW'R 8ed o FEDI 2008!
Clwb Antur Stiniog, Clwb Antur Mon a Chlwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy yw'r clybiau diweddaraf i dderbyn grant offer gan y Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, drwy'r Cyngor Chwaraeon Cymru. Mae 'na i fyny at Ł5000 o gronfa cyfalaf i glybiau awyr agored ar gael.
|
| |
| Hyfforddiant Cymhwyster Dringo Wal (NEWYDD) yn dod yn fuan! |
27-28 MEDI 2008 - PLAS Y BRENIN Mae'r cwrs hyfforddi 2 ddiwrnod yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r rhinweddau arwain sydd ei angen i gyflwyno a goruchwylio dringwyr nofis i'r rhaff dop nodweddiadol ac i waliau dringo bowldro. Bydd
y Cymhwyster yma'n apelio at athrawon, arweinwyr ieuenctid, goruchwylwyr Dug Caeredin ac aelodau o glybiau awyr agored.
|
| |
| Dyddiad Agored Rhad ac am Ddim ym Mhlas Menai! |
Troi angerdd yn yrfa - 27.09.08
Mae ein dyddiau cipolwg yn cael eu cynnal i'ch helpu i ddysgu am hyfforddi a gweithio yn y diwydiannau chwaraeon dwr a hwylio. Boed yn dechrau arni, yn newid gyfeiriad, ar flwyddyn fwlch neu'n cael seibiant yn eich gyrfa, ymunwch a ni i ddysgu mwy am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn eich galluogi i weithio yn y diwydiannau cyffrous a deinamig hyn.
|
| |
| Rhaglenni Antur Awyr Agored Gwyliau’r Haf Conwy |
Cyfres o gyfleoedd diwrnodau a phreswyl i deuluoedd, ieuenctid a phlant ar gael fel rhan o raglen antur awyr agored gwyliau'r haf Conwy. Gweithgareddau yn cynnwys beicio mynydd 'free-ride', dringo, abseilio, canwio, caiacio, archwilio tanddaearol, cerdded ceunant, cyfeiriannu, ceffylau, cwrs rhaffau uchel, sgio a geirfaoedd a llawr mwy!
|
| |
|