Efo pwy ydw i'n cysylltu ynglyn a chymhwyso fel Arweinydd Mynydd?
Mae gan Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Prydain (HAMP) yr holl wybodaeth fydd ei angen arnoch chi i fod yn Arweinydd Mynydd. Mae HAMP yn gyfrifol am weinyddu'r rhan fwyaf o gyrsiau cerdded, dringo a mynydda ym Prydain. Mae swyddfeydd HAMP yng Nghapel Curig, heb fod ymhell o Blas y Brenin. Cymrwch olwg ar www.mltuk.org neu ffoniwch 01690 720272

Oes yna bres ar gael i helpu cychwyn clwb awyr agored?
Oes. Mae yna nifer o lefydd y gall grwpiau cymunedol fynd i gael arian i gychwyn clwb. Er enghraifft, mae gan Gyngor Chwaraeon Cymru nifer o gronfeydd - ar gyfer cychwyn clybiau, ariannu cyrsiau hyfforddi, talu am offer a mwy. Am wybodaeth bellach cliciwch ar 'clybiau awyr agored' ar brif ddewislen y wefan yma neu gysylltwch a'ch Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored drwy glicio ar 'cysylltwch a ni'.

Lle mae cael hyd i'r clwb awyr agored agosaf?
Cliciwch ar 'clybiau awyr agored' ar y brif ddewislen a dilynwch ddolen 'rhestr clybiau'. Dydi pob clwb ddim ar y wefan, felly os na ddowch chi o hyd i un addas yno cysylltwch efo'ch Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored lleol drwy glicio ar 'cysylltwch a ni'.

Sut mae cael hyd i wybodaeth am waith neu yrfa awyr agored?
Cliciwch ar 'gwybodaeth gyrfaoedd' ar y brif ddewislen. Yno fe gewch chi wybodaeth am gyrsiau awyr agored ym maes Addysg Bellach ac Uwch, Cynlluniau Hyfforddi yng Ngogledd-orllewin Cymru a gwybodaeth am wobrau a chymhwysterau Arwain a Hyfforddiant awyr agored.

 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.